Lyrics Page

Dros Gymru'n Gwlad (Finlandia)

By Katherine Jenkins

647 views Jun 6, 2026 updated

Dros Gymru'n gwlad, O! Dad dyrchafwn gri,
Y winllan wen a roed i'n gofal ni;
D'amddiffyn cryf a'i cadwo'n ffyddlon byth,
A boed i'r gwir a'r glân gael ynddi nyth;
Er mwyn dy Fab a'i prynodd iddo'i hun,
O! crea hi yn Gymru ar dy lun.

O! deued dydd pan fo awelon Duw
Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw,
A'r crindir cras dan ras cawodydd nef
Yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo Ef;
A'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
Yn seinio fry haeddiannau'r Addfwyn Oen.

O! deued dydd pan fo awelon Duw
Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw,
A'r crindir cras dan ras cawodydd nef
Yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo Ef;
A'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
Yn seinio fry haeddiannau'r Addfwyn Oen.

Official Video

Save Your Favorites

Create a free account to save songs, build your personal library, and connect with the Zion community.

Create Free Account

Join the Zion Community

Create a free account to save your favorite lyrics, submit song suggestions, and connect with fellow worshippers.

No spam. Unsubscribe anytime.